Archive for Mai, 2008

Diwrnod Bant

Mai 20, 2008

Ces i ddiwrnod bant ddoe. Aeth y crwtyn i weld ei hen fam-gu (Mamie Francaise) yn Ne Lloegr, a minnau’n cael diwrnod llawn hebddo. 8 awr i’n hunan, a chymaint o bethau i wneud, felly dyma beth a wnes i:

Do’n i ddim yn deall pan oedd ‘y ngwraig yn treulio diwrnod yn gwneud dim byd gyda’r crwtyn yn nhŷ ei mam. Ro’n i’n derbyn ei bod hi’n flinedig, a’i fod yn braf gwneud dim am unwaith, ond tan ddoe, nag o’n i wedi deall beth yw diwrnod bant.

Yn gyntaf, mae rhyw hanner awr o fwydro a thindroi. Beth wnaf i? ‘Na’i esgus gwylio’r newyddion, wedyn gneud rhywbeth ar fy rhestr o dasgau am y diwrnod.

Wedyn mae rhyw awr o ‘gynllunio’. Wy’n rhy flinedig i wneud dim yn syth, felly beth am benderfynu beth sydd i’w wneud.

Gwneud ambell i alwad ffon, bach o fwyd, falle bach yn fwy o fwyd. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod faint o’r gloch yw hi oherwydd nag oes rhaid i fi wylio’r cloc heddi.

Torri’r lawnt (mae’n ddiwrnod braf wedi’r cyfan), wedyn disgwyl ar y rhestr o bethau i wneud a meddwl ‘O mae hen ddigon o amser, so’r crwtyn gyda fi heddi. Gwely am awr fach (ar ol penwythnos hir a chaled) ac yn sydyn reit mae ‘ngwraig ar y trên ar ei ffordd gytre, a minnau wedi gwneud… ymm… dim o gwbl.

Well i fi ymhelaethu ar y penwythnos. Parti pen-blwydd gyda 9 o blant ac 20 o oedolion. Llond y lle o falŵns a bwyd, a phawb yn joio. I fac-tracio fel ffilm doniol (ar fast fforward, siŵr o fod) nosweth Gwener a bore Sadwrn (a phrynhawn Sadwrn, a weud y gwir i chi), rhedeg o gwmpas y tŷ yn cymonnu (tacluso, i chi bobl o ffwr’), cario bocsys a phethach lan staer i’r stafell sbâr, ceisio diogelu’r tŷ ar gyfer plant sy’n gallu cerdded (Mae un rhan ohono’i yn disgwyl ‘mlaen at weld Ioan yn cerdded, ond mae rhan arall ohono’i yn gwybod na fydd eiliad o lonydd i fi wedyn. Am hwyl! Am hunllef!), a symud y llyfrau Sw-Docw o’r stafell ‘molchi – so ‘ngwraig am i bobl feddwl mod i’n gneud Sw-Docw yn y tŷ bach, ond mae pawb yn gwybod nawr ta beth!!!

Soi’n gweud bod y tŷ yn llanast cyn y penwythnos, ond ar ol diwrnod a hanner o gymonnu, ro’n ni dal wrthi’n cicio pethau o dan fyrddau a’u cuddio mewn cypyrddau wrth i’r gwesteion gyrraedd.

Ware gemau dechau yn y parti, wedyn – pasio’r parsel, delwau cerddorol (sefyll fel delw pan fo’r gerddoriaeth yn peidio, er i ni newid y rheolau i fod yn ‘ddwylo ar eich pen’ oherwydd bo cymaint o blant ifanc), helfa drysor, a jeli a hufen ia i fyta. Heblaw’r Pringlys, wedi’u gwneud gan Cat (fy ngwraig) neu’i mam oedd y bwyd i gyd, a diflanodd popeth, gan adael jest digon i fi gael bwyd gyda’r nos yn hytrach na pharatoi rhywbeth arall! Am gynllun perffaith!

Ond dyna’r her nawr – cadw’r tŷ yr un mor daclus ag oedd e ddydd Sadwrn, tra’n ffindio’r holl bethau sy ar goll dan fyrddau, mewn cypyrddau ac ati. Wats ddys sbes…

Bwydydd Diddorol

Mai 9, 2008

Ydw i’n or-hyderus? Ar ôl cwta wythnos o garco Ioan, mae ‘nghreadigrwydd coginyddol ar dân! Ddoe, ces i (neu falle, celon ni – wedi’r cyfan mae Ioan yn rhan o’r blog hwn hefyd!) anrheg, fel manna o’r nefoedd. Y fenyw drws nesa wedi coginio gormod o fwyd, a dim am ei dwlid i’r bin: A hoffen ni bryd parod o gyw iâr, tato, brocoli, moron a grefi, a gweddill y cyw iâr. Wrth gwrs, medden i, a mynd syth at y llyfr ryseitiau i gael syniadau am bryd o fwyd i fi a ‘ngwraig oedd yn cynnwys cyw iâr. Felly “Cyw iâr mewn saws finegr gwin gwyn a hufen sur” celon ni, heblaw taw iogwrt oedd yr hufen sur. A hen win coch wedi suro oedd y ‘finegr gwin gwyn’. Ond, na, ymffrostio yw hynny (neu bôstan fel ‘yn ni’n gweud lawr ffor’ hyn). Nid dyna yw stori’r blog!

Yn ystod y dydd ddoe, penderfynais i bod brechdanau caws meddal bach yn ddiflas, a felly yn penderfynu taw creadigrwydd pia hi, a gwneud brechdanau caws meddal, afocado a’r mymryn lleiaf o saws tomato. ‘Na chi’r mwyaf brwdfrydig wy wedi gweld Ioan dros ei frechdanau ers ‘ticyn, yn sicr ers ei anhwylder penwythnos diwethaf.

A bu bron i fi sbwylo’r cyfan heddiw! Wrth gerdded gartref o ‘Ti a Fi’ dydd Gwener (sydd yn rhyw glwb i blant am 2 awr gyda 10 munud o ganu Cymraeg ar ei ddiwedd, yn hytrach na Ti a Fi yn ei lawn ystyr) sylweddolais i nad oedd bara yn y tŷ. Nawr, nag ‘yn ni’n prynu bara o’r siop, fel pobl normal. Mae peiriant crasu bara ‘da ni ers dros 2 flynedd bellach, a mae’r bara gymaint yn neisach, nag ‘yn ni wedi prynu mwy na hanner dwsin o dorthau siop ers i ni’i gael. Felly dim bara nawr = dim bara am o leiaf 3 awr a 40 munud. Bach yn rhy hir i’r crwtyn aros, felly.

A dyma (o’r diwedd – sori, wy’n tueddi i rygnu mlaen os nag oes rhywun yn ‘y mrysio) destun y blog. Daeth fflach o ysbrydoliaeth, a dyma fi’n coginio pancws (crempog, ta beth ‘ych chi’n eu galw nhw), a’u taenu gyda chymysgedd o Diwna ac Afocado. Ces i flas, ac yna ces i bancws, achos ro’n nhw’n hyfryd. Na, wir i chi! Yna rhoddes i un i Ioan.

Sgrechain, llefain, twlid bwyd ar lawr… Ro’n o’n meddwl mod i ‘di cymryd cam gwag (wel, mynd am dro 8 milltir yn llawn o gamau gwag, a weud y gwir!). Felly yn lle rhoi tafelli o bancws iddo fe, dyma fi’n eu torri’n fan a’u rhoid ar lwy. Yr un ymateb yn union.

Falle i chi ddarllen mewn post cynharach am drin plant fel cŵn, a dyma fi’n meddwl – a ddylwn i baratoi rhywbeth arall yn lle’r pancws? A ddylwn i rhoi’r bwyd i gadw a rhoi’r crwtyn i’r gwely heb fwyd? Yr ail oedd yr opsiwn gore i fi – nag wy moyn i Ioan ddysgu bod modd iddo wrthod un fath o fwyd, a chael rhywbeth arall pob tro. Nag wy am iddo orfod gwneud dewisiadau fel’na am dicyn eto! Sai’n siŵr os welws e’r penderfyniad yn ‘yn llygaid neu beth, ond triais i un waith eto, a dyma fe’n llowcio’r bwyd, ac yn sgrechain am fwy ar ôl pob llwyaid.

Mae’n debyg, yn ôl y tiwtor nofio, (mwy am hynny rhywbryd eto) bod plant wrth iddynt ddechrau cropian neu gerdded, yn mynd trwy ryw gyfnod anodd o strancian a ffwdanu wrth wneud pethau arferol pob dydd. Rhywbeth i wneud gyda dechrau eu hannibyniaeth, myntai hi. Os felly, tybed ai dyna oedd fy muddugoliaeth bach cyntaf yn y frwydr hir rhwng nawr a phan mae’n gadael y nyth (yn 37 oed yn ôl yr ystadegau…!). Os felly, mae’n siŵr taw Iestyn 1 Ioan 37 (o leiaf) yw hi erbyn hyn!

Datblygiad y Babi – Llinell Amser

Mai 5, 2008

Fel gwedais i yn fy mhost cyntaf, wy am weld pwy fath o gemau galla’i whare gyda’r crwtyn i’w ddatblygu (rhwng y gemau ‘jest whare’), ac felly dyma fi ar ruthr i’r we. Sgwennu “baby development” i’r hen Oogle, a bant a ni.

Am siom. Na, mae’n waeth na hynny – mae ‘mhlentyn i’n rhyw fath o retard. Mae fe’n hwyr yn gwneud gymaint o bethau, wy bach yn grac nag yw’r ymwelydd iechyd wedi gweud rhywbeth.

“Mae fe’n foi hyfryd,” mynte hi bob tro. “Mae fe mor fywiog,” ambell dro arall. Byth “Mae fe bach yn dwp. Dyle fe fod yn gneud … hyn a’r llall… erbyn hyn.”

Ac yna meddwl, ac ystyried, ac edrych yn ddyfnach. Byddwch yn ofalus iawn, da chi, o gredu’r pethau ar y we. Er enghraifft, dyma siannel “Discovery” http://health.discovery.com/centers/kids/timeline/timeline.html yn gweud bod e’n cerdded ac yn defnyddio geiriau gan wbod eu hystyron, mae dannedd a gwallt gyda fe, ac mae fe’n cropian i ffwrdd cyn edrych i weld os yw ei rieni yn gwylio. A hynny’n 10 mis oed. Nawr, falle bod eich plentyn chi yn gneud y pethau ‘ma, ond so Ioan yn gneud, ac yntau’n prysuro at ei 12 mis.

Ac yna, ffindio’r llinell amser ar Talaris http://www.talaris.org/timeline.htm# sydd yn penodi cyfnodau (yn hytrach na dyddiadau penodol). Hyd yn oed wedyn, mae Ioan ar ei ol gyda chwpl o bethau, ond o flaen rhai ohonynyt hefyd. Rwy llawer iawn yn hapusach o weld hynny!

Ond nol at ddiben yr ymchwil yn y lle cyntaf – ryn ni wedi rhoi cwpanau i’r crwtyn yn y bath iddo allu arllwys dwro un i’r llall, a mwy o focsys bach a mawr iddo gael rhoi pethau mewn a’u tynnu nol mas eto. Mwy o chwilio, wy’n credu!

Gwrthod Bwyta

Mai 1, 2008

Mae’r boi wedi bod yn gwrthod bwyta dros y ddeuddydd ddiwethaf. Mae’n bosib taw anhwylder sydd i feio am ei ddiffyg brwdfrydedd brechdanol, ond rhyfedd ei fod felly yn bwyta brecwast llawn a chinio llawn hefyd (er iddo chwydu cinio echdoe dros ei wely wrth noswylio). A rhyfedd hefyd nad oes awch am frechdan arno fe, ond mae’n ddigon hapus o gynnig iogwrt iddo’n syth.

Mae rhyw syniad gyda fi taw colli’i fam sydd wrth wraidd peth o’i wrthod. Mae Ioan yn angel fel arfer, ond mae wedi bod yn crintach ychydig yn fwy na’r arfer, llefain wrth fynd i’w wely, jest pethau bach sy ddim yn broblem, ond yn anarferol.  Er falle taw fi sy’ ffaelu a gwneud brechdan dechau!

Ta beth, penderfynson ni ddilyn ein greddf a’i drin fel ci. Well i fi esbonio cyn ddaw’r sosial:  Pan fo ci bach yn gwrthod bwyta, y peth callaf i’w wneud yw i gymryd y bwyd oddi arno, a’i roi nol iddo fe nes ‘mlaen, adeg ei bryd nesa. Felly mae ci yn dysgu i fwyta bwyd ar yr adegau cyfleus i’r bos (ei berchennog) yn hytrach na bod yn fos ei hunan. OK, mae plentyn bach yn wahanol, ond nag ‘yn ni’n moyn i Ioan ddechrau dewis beth mae fe am fwyta a beth sy ddim wrth ei ddant e am rhai blynyddoedd eto (ha ha ha meddech chi’r rhieni profiadol!), felly does dim iogwrt a ffrwythau i fod tan iddo fe fwyta’i frechdanau, neu o leiaf gwneud ymdrech deg.

Heddi, fel mae’n digwydd, bwytodd e dros hanner y frechdan fach oedd o’i flaen, felly gas e gwpl o ddarnau o beren. Gyda llaw, mae Ioan ymhell dros yr 50% o ran ei bwysau (hy yn drymach o lawer na chyfartaledd y babis o’r un oedran a fe), yn iach ac yn llawn egni, felly does dim rhaid i ni fecso y bydd e’n newynnu – pe bai e’n llai iachus, wrth gwrs, byse’n rhaid i ni fod ‘ticyn yn fwy carcus!