Ydw i’n or-hyderus? Ar ôl cwta wythnos o garco Ioan, mae ‘nghreadigrwydd coginyddol ar dân! Ddoe, ces i (neu falle, celon ni – wedi’r cyfan mae Ioan yn rhan o’r blog hwn hefyd!) anrheg, fel manna o’r nefoedd. Y fenyw drws nesa wedi coginio gormod o fwyd, a dim am ei dwlid i’r bin: A hoffen ni bryd parod o gyw iâr, tato, brocoli, moron a grefi, a gweddill y cyw iâr. Wrth gwrs, medden i, a mynd syth at y llyfr ryseitiau i gael syniadau am bryd o fwyd i fi a ‘ngwraig oedd yn cynnwys cyw iâr. Felly “Cyw iâr mewn saws finegr gwin gwyn a hufen sur” celon ni, heblaw taw iogwrt oedd yr hufen sur. A hen win coch wedi suro oedd y ‘finegr gwin gwyn’. Ond, na, ymffrostio yw hynny (neu bôstan fel ‘yn ni’n gweud lawr ffor’ hyn). Nid dyna yw stori’r blog!
Yn ystod y dydd ddoe, penderfynais i bod brechdanau caws meddal bach yn ddiflas, a felly yn penderfynu taw creadigrwydd pia hi, a gwneud brechdanau caws meddal, afocado a’r mymryn lleiaf o saws tomato. ‘Na chi’r mwyaf brwdfrydig wy wedi gweld Ioan dros ei frechdanau ers ‘ticyn, yn sicr ers ei anhwylder penwythnos diwethaf.
A bu bron i fi sbwylo’r cyfan heddiw! Wrth gerdded gartref o ‘Ti a Fi’ dydd Gwener (sydd yn rhyw glwb i blant am 2 awr gyda 10 munud o ganu Cymraeg ar ei ddiwedd, yn hytrach na Ti a Fi yn ei lawn ystyr) sylweddolais i nad oedd bara yn y tŷ. Nawr, nag ‘yn ni’n prynu bara o’r siop, fel pobl normal. Mae peiriant crasu bara ‘da ni ers dros 2 flynedd bellach, a mae’r bara gymaint yn neisach, nag ‘yn ni wedi prynu mwy na hanner dwsin o dorthau siop ers i ni’i gael. Felly dim bara nawr = dim bara am o leiaf 3 awr a 40 munud. Bach yn rhy hir i’r crwtyn aros, felly.
A dyma (o’r diwedd – sori, wy’n tueddi i rygnu mlaen os nag oes rhywun yn ‘y mrysio) destun y blog. Daeth fflach o ysbrydoliaeth, a dyma fi’n coginio pancws (crempog, ta beth ‘ych chi’n eu galw nhw), a’u taenu gyda chymysgedd o Diwna ac Afocado. Ces i flas, ac yna ces i bancws, achos ro’n nhw’n hyfryd. Na, wir i chi! Yna rhoddes i un i Ioan.
Sgrechain, llefain, twlid bwyd ar lawr… Ro’n o’n meddwl mod i ‘di cymryd cam gwag (wel, mynd am dro 8 milltir yn llawn o gamau gwag, a weud y gwir!). Felly yn lle rhoi tafelli o bancws iddo fe, dyma fi’n eu torri’n fan a’u rhoid ar lwy. Yr un ymateb yn union.
Falle i chi ddarllen mewn post cynharach am drin plant fel cŵn, a dyma fi’n meddwl – a ddylwn i baratoi rhywbeth arall yn lle’r pancws? A ddylwn i rhoi’r bwyd i gadw a rhoi’r crwtyn i’r gwely heb fwyd? Yr ail oedd yr opsiwn gore i fi – nag wy moyn i Ioan ddysgu bod modd iddo wrthod un fath o fwyd, a chael rhywbeth arall pob tro. Nag wy am iddo orfod gwneud dewisiadau fel’na am dicyn eto! Sai’n siŵr os welws e’r penderfyniad yn ‘yn llygaid neu beth, ond triais i un waith eto, a dyma fe’n llowcio’r bwyd, ac yn sgrechain am fwy ar ôl pob llwyaid.
Mae’n debyg, yn ôl y tiwtor nofio, (mwy am hynny rhywbryd eto) bod plant wrth iddynt ddechrau cropian neu gerdded, yn mynd trwy ryw gyfnod anodd o strancian a ffwdanu wrth wneud pethau arferol pob dydd. Rhywbeth i wneud gyda dechrau eu hannibyniaeth, myntai hi. Os felly, tybed ai dyna oedd fy muddugoliaeth bach cyntaf yn y frwydr hir rhwng nawr a phan mae’n gadael y nyth (yn 37 oed yn ôl yr ystadegau…!). Os felly, mae’n siŵr taw Iestyn 1 Ioan 37 (o leiaf) yw hi erbyn hyn!
Tagiau: bwyd
Mai 19, 2008 at 3:04 yh
Llongyfarchiadau mawrion mawr i ti! Gyda llaw, beth am lenwi’r ‘just another wordpress blog’ ar y ben gyda rhywbeth arall? A beth am arddull wordpress gwahanol? Mae wordpress.com efo digon o ddewis, tydy?
Mwynhau darllen hyn oll…:-)
Mai 20, 2008 at 2:32 yh
Diolch Aran! Wy wedi newid y tag yna (dim ond dwyawr cymres i i ffindio’r gosodiad!), ac mae’n siwr bydd arddull gwahanol yn gweithio i’r dim. Ond pan gei di blant, falle gweli di nag oes rhyw lawer o amser i wneud y pethau sy ddim yn gwbl, gwbl angenrheidiol…
(Mae’r mamau i gyd yn codi’u haeliau ac yn sibrwd ‘hy, dynion!’ at ei gilydd!…)
Mai 21, 2008 at 12:59 yh
Dw i’n wfftio’r rhybuddion ‘ma i gyd…;-)
Os ti isio i mi chwarae o gwmpas efo’r dyluniad i ti, jesd anfon y manylion ataf fi…
Ia, digon o amser ar fy nwylo ar y funud, 100 o lythyrau wedi mynd yn y post ddoe a heddiw, dim ond aros i glywed rwan…:-)
Mehefin 19, 2008 at 2:05 yb
Somehow i missed the point. Probably lost in translation
Anyway … nice blog to visit.
cheers, Filleter.