Cropian a Cherdded

By iestynap

Heb sgwennu ers achau – mae’n rhyfedd fel mae’r amser yn diflannu pan fo ‘lleidr amser’ gyda chi ar ffurf mab bach…!

Mae’r crwtyn yn cropian (ers 4 wythnos) ac yn tynnu ei hunan lan ar y celfi, y staer, y drysau, ein coesau…  Rhaid wrth lygaid barcud i’w wylio.  Ry’n ni wedi rhoi’r platiau cau ar y socets trydan i gyd, a wedi prynnu teclynau cadw cypyrddau ar gau, hefyd, ond heb ei ffitio eto gan nad yw Ioan yn cael mynd i’r gegin, a gan ei fod e’n cropian, mae’n ddigon hawdd ei gadw mas.

Un o’i hoff gemau ar hyn o bryd yw troi cylchoedd o gwmpas y sofa, gyda Dadi yn ei gwrso fe, gan daro’i din neu ei draed pob tro mae’n ei ddala.  (Un o’r ychydig resymau fy mod i yn erbyn deddf gwahardd taro plant yw’r diffiniad o daro.  Mae Ioan yn dwli cael ei daro’n ysgafn ar ei din, ond lle mae’r ffin rhwng hynny a throsedd arfaethedig?  Does dim gyda fi ddigon o ffydd y byddai’r system gyfreithiol fel y mae ar hyn o bryd yn gall ynglyn a’r peth.  Ond mae hynny’n ddadl at ddiwrnod arall!)

Mae Ioan yn newid o ddiwrnod i ddiwrnod ar hyn o bryd – yn tyfu’n dalach, yn colli pwysau (neu bmi o leiaf) ers iddo ddechrau cropian, ac yn datblygu pob math o sgiliau rhyfedd.  Ddechrau’r wythnos, sylwodd arna’i’n tynnu fy sbectol, ac anadlu arnyn nhw er mwyn eu glanhau.  Nawr pob tro wy’n tynnu’n sbectol mae fe’n chwythu gyda’i geg ar agor er mwyn glanhau par dychmygol o sbecs!

Mae fe hefyd wedi dechrau arwyddo.  Mae chwifio llaw wrth fwyta naill ai’n dangos ei fod am gael gwared ar rywbeth neu ei fod e am gael diod (yr arwydd am ddiod yw troi dwrn fel petai cwpan yn eich llaw).  Mae fe’n defnyddio’r arwydd am gi o bryd i’w gilydd – mae fe’n dwli ar gwn – ac yn cropian tuag at y gegin os wnelwch chi arwydd bwyd (llaw at y geg).  Mae’n rel hwyl carco fe, a fi sy’n cael gweld popeth.  Heblaw am y tro cyntaf iddo fe dynnu’i hunan ar ei draed – gyda ‘ngwraig oedd e ar y pryd, felly er taw fi sy’n ei garco fe 80% o’r amser, mae fe dal yn sefyll ar ei chyfer hi tro cyntaf.  Does dim cyfiawnder!!

Bydd e ddim yn hir yn cerdded nawr.  Mae’r cart cerdded gyda fe, ac mae ei draed yn symud a’r wen ar ei wyneb yn dangos pwy mor glyfar yw cerdded.  Ar wahan i ddala’i ddwylo (neu ei geseiliau) a helpu iddo fe gerdded ar draws y llawr ambell waith, so ni wedi gwneud rhyw ymdrech mawr i’w helpu.  Fe’i codais i e wysg ei din cwpl o weithiau i ddangos iddo pwy mor hawdd oedd sefyll gyda chymorth sofa, ond fe sy wedi penderfynu taw dyma’r adeg gorau i ddechrau, a does dim stopio i fod arno fe.  A weud y gwir, er mod in disgwyl ymaen yn eiddgar at ei weld e’n cerdded yn dechau, ac at fynd a fe ar grwydr, gorau po hwyred mae fe’n ffindio’i draed o ran faint o waith bydd e, hefyd!

Tagiau: , , , ,

Leave a Reply