Geiriau cyntaf

By iestynap

Mae pawb wedi bod yn gofyn i ni, “Bydd ei eiriau cyntaf yn Gymraeg neu Saesneg?”, a ninnau yn ateb bod ‘dad’ a ‘mam’ yr un fath yn y ddwy iaith, felly’n bod ni’n ddigon saff na bydd problem ieithyddol.  A dyma fi’n cyrraedd gytre ddoe, a chasglu Ioan o’n cymdogion (mae nhw’n dwlu arno fe ac yn mynnu’i garco mor amal a phosib!), i glywed ei fod (yn eu tyb nhw) wedi gweud ei air cyntaf.

“Panda”.

“Panda”?

Wrth gwrs, nag yn ni’n credu dim arnyn nhw, er ei fod e’n dwli ar weld y panda yn ei lyfr ‘codi fflapiau’ o anifeiliaid.  Mae wedi bod yn adnabod y crocodeil (clapio’i dwylo’n araf gyda’i freichiau ar led yn ol ei arwyddo ei hunan), ac wedi bod yn chwyrnu at y llew, a gwneud rhyw rhoncian wrth y mwnciod, ond Panda – does bosib!

Ond mae’n amlwg ei fod wedi cyrraedd y pwynt nawr pan fo’i ymenydd yn dechrau deall geiriau / arwyddion = pethau arbennig, gan ei fod wedi rhoi ei law wrth ei dalcen y bore ‘ma wrth ddisgwyl ar fy ngwraig.  Pan na chafodd unrhyw gymeradwyaeth, penderfynodd e rhoi ei ddau fynegfys at ei gilydd (Sy’n agos at yr arwydd cywir), a gweud ‘dadi’ – ‘Na’i air cyntaf, yn siwr i ti, er falle nad yw’ ngwraig mor sicr!!  Dim ond wedyn, sylweddolon ni taw’r arwydd am Mam (rhoi tri bys at eich talcen) oedd ei ymgais cyntaf.

Ta beth, rwy’n dechrau swnian fel ‘Boring Dad’ nawr.  Mae fe’n glyfar aruthrol, a dyna fe.  Na beth o’n i’n trio gweud a dyna’i diwedd hi!

Ond na, mae’n rhyfedd siwd mae ryw swits yn troi, a phethau’n dechrau rhuthro, fel ei gropian – cymrodd e ddeuddydd i fynd o ffaelu a chropian, i gropian i bobman ar ras wyllt – a’i sefyll – eto rhyw ddeddydd o ffaelu a sefyll i dynnu ei hunan lan wrth unrhywbeth o fewn golwg.  Mae’n debyg bod plant o’i oedran e’n dysgu rhyw 10 o eiriau y diwrnod unwaith mae nhw wrthi’n iawn.  Nag o’n i’n sylweddoli mod i’n defnyddio gymaint o eiriau a hynna!  Cawn weld faint mor glou bydd e’n dysgu i barablu nawr!

Tagiau: , , , , , , ,

Leave a Reply