Archive for Medi, 2008

Cewynnau Go Iawn

Medi 27, 2008

Cewynnau Go Iawn

Mae Ioan yn tyfu o hyd – does dim syndod yno, wedi’r cyfan na beth mae babis yn gwneud, ondife! Ond daeth e’n amlwg dros y dyddiau diwethaf ei fod e’n tyfu’n rhy fawr i’w gewynnau.

Penderfynon ni’n gynnar iawn y bydden ni o leia’n rhoi cynnig ar ddefnyddio cewynnau go iawn, hy cewynnau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd. Roedd amheuon – Ych chi’n cofio’r hen gewynnau mawrion, fel tyweli bath wedi’u plygu, a’r pants plastig mwya’n y byd i’w gorchuddio? Er, falle taw fi sy’n hen!

Ond, ar wahân i’r wythnos gyntaf, pan fo meconiwm – rhyw dar ffiaidd, du sy’n glynu wrth bopeth – yn dod mas yn y cewyn, ry’n ni wedi defnyddio cewynnau go iawn ers dros flwyddyn nawr, ac ar yr achlysuron prin pan fo’r cewynnau papur yn fwy gyfleus, mae’n teimlo’n rhyfedd iawn.

Ryn ni wedi dysgu rhywbeth pwysig ynglyn a chewynnau go iawn yn ddiweddar. Ry’n ni wedi cael ambell broblem da’r Frech Gewyn (pwy eiriau sy yn Gymraeg am y nappy rash, te?), ond dim ond ar ol bwydo rhywbeth arbennig o ddiddorol i Ioan. Shibwns, bara garlleg, bach o Korma Cyw Iar – pethau bysech chi’n erfyn y Frech ar eu hol! Ond yn ddiweddar, mae’r crwtyn druan wedi datblygu Brech waeth o lawer, bu’n gwaedu a gollwng ar un adeg. Ro’n nhw’n cyd-fynd a drewdod cryf o Ammonia yn ei gewyn pob tro oedd e’n wlyb.

Dyna ni yn gwneud bach o ymchwil, ac mae’n debyg taw pwlfer golchi yn cronni yn y cewynnau sy’n achosi’r broblem. Mae’r pwlfer yn alcali, ac yn cyfuno gydag Iwrin i greu amonia, sy wedyn yn llosgi’r croen. Felly dyma ddau beth defnyddiol iawn ryn ni wedi dysgu:

  1. Ffordd dda o leddfu’r frech yw i rhoi cwdyn te Chamomile yn y dwr sy’n cael ei ddefnyddio i olchi’r tin. Mae’n tawelu’r croen yn hyfryd! (Os edrychwch chi ar eli lleddfu’r Frech, mae llawer ohonyn nhw yn cynnwys Chamomile. Ydw i’n troi’n hen wraig hysbys?)

  2. Os oes pwlfer golchi yn cronni yn eich cewynnau (neu yn unrhyw beth arall, meddyliwn i), rhowch bach o finegr gwyn, neu finegr wedi’i ddistyllu, yn y drar lle mae’r ‘Comfort’ fel arfer yn mynd. Mae’r finegr (sy’n asid) yn adweithio gydag alcali y pwlfer a’i gwaredu. Gwers magu plant a chemeg yn yr un un post!

Gyda llaw, os ydych chi’n meddwl defnyddio cewynnau go iawn, cofiwch mae’n debyg eu bod nhw’n arbed rhyw £600 punt i chi dros fywyd cewynnog eich babi, ac os oes cynlluniau gyda chi i ychwanegu mwy o fabanod, gellid defnyddio’r cewynnau eto. Mae hyd yn oed gwerth ail law ynddyn nhw, felly arbed £600 a gwerthu’r cewynnau nes malen… Bargen!!!

Camau Cyntaf

Medi 27, 2008

Bydd gan lot o bostiau benawdau yn cynnwys y gair ‘cyntaf’ am ychydig, mae arna’i ofn. Felly mae…

Ddydd Iau, cymerodd Ioan ei gam cyntaf. Wel, nage cam, rhyw symudiad bach o’i droed a symudodd ei goes o ryw hanner modfedd. Eto, cynydd!

O feddwl iddo fynd o’r symudiad cyntaf i gropian ffwl pelt o fewn deuddydd, gwedais i y bydde fe’n rhedeg erbyn heddi, ond siom a fu. Tan 6 o’r gloch heno, nag oedd e wedi gwneud mwy na symud un droed rhyw fodfedd cyn cwmpo eto ar ei din.

Ond, jest wedi 6, i sain per Queen, Radio Ga Ga (o bopeth!), penderfynodd e gymryd pum cam bach, oedd yn ddigon i wneud i fi weiddi am ‘y ‘ngwraig. Erbyn ‘Machines (Back to Humans)’, roedd y crwtyn wedi cerdded o ffenest y stafell fyw at y piano (rhyw 3 metr) heb gwmpo mwy na douwath! Byddai’n braf gweud iddo ddechrau rhedeg i ‘I Want to Break Free’ , ond does dim isie i ni gymryd y peth yn rhy bell, nag oes!

Mae hefyd wedi gweud ei air cyntaf (ac nid Panda odd e, chwaith!). Gadewais i fe ar ei ben ei hunan yng nghlwb Ti a Fi ddydd Mawrth, ac aeth e i ben y ‘llwyfan’ (rhyw ddarn o lawr sy 6 modfedd yn uwch na’r gweddill) ac anghofio siwd i ddod lawr eto. Clywas i fe’n llefain, ond erbyn i fi fynd nol i’r stafell roedd un o’r mamau wedi’i godi o’r llawr. Troiodd e tuag ata’i, a ‘ngweld trwy ei ddagrau, a sgrechen nerth ei ben ‘Daaadiii!’. Pallodd ‘y ‘ngwraig a ‘nghredu i, gan yn bo ni ‘di bod yn trio dysgu iddo fe weud ‘mami’. Ond heddi, mae fe wedi gweud e eto cwpl o weithiau.

Ond cyn i fi allu clochdar wrth ‘y ‘ngwraig ynglyn a hoff riant y crwtyn, troiodd e ati hi, a gweud dadi, hefyd. Ryn ni wedi hen arfer arno fe’n arwyddo ‘mam’ wrth ofyn iddi hi ble ydw i, a bu rhaid i fi dderbyn taw ‘rhiant’ yw ystyr dadi, a nage fi yw’r ffefryn wedi’r cwbl…

Sori, ond mae’nrhaid i fi gael hyn mas o’r system tra bo unrhywun sy wedi danto arna’i'n canu clodydd Ioan wedi’n gadael, felly, mwy o eiriau cyntaf:

Wrth ei sychu ar ol bath, ryn ni’n ware gem o gyfri i dri a gollwng y tywel ar ei ben. Nos Iau, dalais i’r tywel fel arfer, a wedodd Ioan “Nn… da… trrr.” So fe wedi gneud e eto ers ‘ny – wy’n credu iddo fe gael siom mawr o gael cusan a chwts yn lle cael tywel yn ei wyneb…