Bydd gan lot o bostiau benawdau yn cynnwys y gair ‘cyntaf’ am ychydig, mae arna’i ofn. Felly mae…
Ddydd Iau, cymerodd Ioan ei gam cyntaf. Wel, nage cam, rhyw symudiad bach o’i droed a symudodd ei goes o ryw hanner modfedd. Eto, cynydd!
O feddwl iddo fynd o’r symudiad cyntaf i gropian ffwl pelt o fewn deuddydd, gwedais i y bydde fe’n rhedeg erbyn heddi, ond siom a fu. Tan 6 o’r gloch heno, nag oedd e wedi gwneud mwy na symud un droed rhyw fodfedd cyn cwmpo eto ar ei din.
Ond, jest wedi 6, i sain per Queen, Radio Ga Ga (o bopeth!), penderfynodd e gymryd pum cam bach, oedd yn ddigon i wneud i fi weiddi am ‘y ‘ngwraig. Erbyn ‘Machines (Back to Humans)’, roedd y crwtyn wedi cerdded o ffenest y stafell fyw at y piano (rhyw 3 metr) heb gwmpo mwy na douwath! Byddai’n braf gweud iddo ddechrau rhedeg i ‘I Want to Break Free’ , ond does dim isie i ni gymryd y peth yn rhy bell, nag oes!
Mae hefyd wedi gweud ei air cyntaf (ac nid Panda odd e, chwaith!). Gadewais i fe ar ei ben ei hunan yng nghlwb Ti a Fi ddydd Mawrth, ac aeth e i ben y ‘llwyfan’ (rhyw ddarn o lawr sy 6 modfedd yn uwch na’r gweddill) ac anghofio siwd i ddod lawr eto. Clywas i fe’n llefain, ond erbyn i fi fynd nol i’r stafell roedd un o’r mamau wedi’i godi o’r llawr. Troiodd e tuag ata’i, a ‘ngweld trwy ei ddagrau, a sgrechen nerth ei ben ‘Daaadiii!’. Pallodd ‘y ‘ngwraig a ‘nghredu i, gan yn bo ni ‘di bod yn trio dysgu iddo fe weud ‘mami’. Ond heddi, mae fe wedi gweud e eto cwpl o weithiau.
Ond cyn i fi allu clochdar wrth ‘y ‘ngwraig ynglyn a hoff riant y crwtyn, troiodd e ati hi, a gweud dadi, hefyd. Ryn ni wedi hen arfer arno fe’n arwyddo ‘mam’ wrth ofyn iddi hi ble ydw i, a bu rhaid i fi dderbyn taw ‘rhiant’ yw ystyr dadi, a nage fi yw’r ffefryn wedi’r cwbl…
Sori, ond mae’nrhaid i fi gael hyn mas o’r system tra bo unrhywun sy wedi danto arna’i'n canu clodydd Ioan wedi’n gadael, felly, mwy o eiriau cyntaf:
Wrth ei sychu ar ol bath, ryn ni’n ware gem o gyfri i dri a gollwng y tywel ar ei ben. Nos Iau, dalais i’r tywel fel arfer, a wedodd Ioan “Nn… da… trrr.” So fe wedi gneud e eto ers ‘ny – wy’n credu iddo fe gael siom mawr o gael cusan a chwts yn lle cael tywel yn ei wyneb…