Tad a'r Mab

Cewynnau Go Iawn
Cewynnau Go Iawn

Mae Ioan yn tyfu o hyd – does dim syndod yno, wedi’r cyfan na beth mae babis yn gwneud, ondife!  Ond daeth e’n amlwg dros y dyddiau diwethaf ei fod e’n tyfu’n rhy fawr i’w gewynnau.

Penderfynon ni’n gynnar iawn y bydden ni o leia’n rhoi cynnig ar ddefnyddio cewynnau go iawn, hy cewynnau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd.  Roedd amheuon – Ych chi’n cofio’r hen gewynnau mawrion, fel tyweli bath wedi’u plygu, a’r pants plastig mwya’n y byd i’w gorchuddio?  Er, falle taw fi sy’n hen!

Ond, ar wahân i’r wythnos gyntaf, pan fo meconiwm – rhyw dar ffiaidd, du sy’n glynu wrth bopeth –  yn dod mas yn y cewyn, ry’n ni wedi defnyddio cewynnau go iawn ers dros flwyddyn nawr, ac ar yr achlysuron prin pan fo’r cewynnau papur yn fwy gyfleus, mae’n teimlo’n rhyfedd iawn.

Ryn ni wedi dysgu rhywbeth pwysig ynglyn a chewynnau go iawn yn ddiweddar.  Ry’n ni wedi cael ambell broblem da’r Frech Gewyn (pwy eiriau sy yn Gymraeg am y nappy rash, te?), ond dim ond ar ol bwydo rhywbeth arbennig o ddiddorol i Ioan.  Shibwns, bara garlleg, bach o Korma Cyw Iar – pethau bysech chi’n erfyn y Frech ar eu hol!  Ond yn ddiweddar, mae’r crwtyn druan wedi datblygu Brech waeth o lawer, bu’n gwaedu a gollwng ar un adeg.  Ro’n nhw’n cyd-fynd a drewdod cryf o Ammonia yn ei gewyn pob tro oedd e’n wlyb.

Dyna ni yn gwneud bach o ymchwil, ac mae’n debyg taw pwlfer golchi yn cronni yn y cewynnau sy’n achosi’r broblem.  Mae’r pwlfer yn alcali, ac yn cyfuno gydag Iwrin i greu amonia, sy wedyn yn llosgi’r croen.  Felly dyma ddau beth defnyddiol iawn ryn ni wedi dysgu:

Ffordd dda o leddfu’r frech yw i 	rhoi cwdyn te Chamomile yn y dwr sy’n cael ei ddefnyddio i olchi’r 	tin.  Mae’n tawelu’r croen yn hyfryd!  (Os edrychwch chi ar eli 	lleddfu’r Frech, mae llawer ohonyn nhw yn cynnwys Chamomile.  Ydw 	i’n troi’n hen wraig hysbys?)

Os oes pwlfer golchi yn cronni yn 	eich cewynnau (neu yn unrhyw beth arall, meddyliwn i), rhowch bach o 	finegr gwyn, neu finegr wedi’i ddistyllu, yn y drar lle mae’r 	‘Comfort’ fel arfer yn mynd.  Mae’r finegr (sy’n asid) yn adweithio 	gydag alcali y pwlfer a’i gwaredu. Gwers magu plant a chemeg yn yr 	un un post!

Gyda llaw, os ydych chi’n meddwl defnyddio cewynnau go iawn, cofiwch mae’n debyg eu bod nhw’n arbed rhyw £600 punt i chi dros fywyd cewynnog eich babi, ac os oes cynlluniau gyda chi i ychwanegu mwy o fabanod, gellid defnyddio’r cewynnau eto.  Mae hyd yn oed gwerth ail law ynddyn nhw, felly arbed £600 a gwerthu’r cewynnau nes malen…  Bargen!!!

Camau Cyntaf
Bydd gan  lot o bostiau benawdau yn cynnwys y gair ‘cyntaf’ am ychydig, mae arna’i ofn.  Felly mae…

Ddydd Iau, cymerodd Ioan ei gam cyntaf. Wel, nage cam, rhyw symudiad bach o’i droed a symudodd ei goes o ryw hanner modfedd. Eto, cynydd!

O feddwl iddo fynd o’r symudiad cyntaf i gropian ffwl pelt o fewn deuddydd, gwedais i y bydde fe’n rhedeg erbyn heddi, ond siom a fu. Tan 6 o’r gloch heno, nag oedd e wedi gwneud mwy na symud un droed rhyw fodfedd cyn cwmpo eto ar ei din.

Ond, jest wedi 6, i sain per Queen, Radio Ga Ga (o bopeth!), penderfynodd e gymryd pum cam bach, oedd yn ddigon i wneud i fi weiddi am ‘y ‘ngwraig. Erbyn ‘Machines (Back to Humans)’, roedd y crwtyn wedi cerdded o ffenest y stafell fyw at y piano (rhyw 3 metr) heb gwmpo mwy na douwath! Byddai’n braf gweud iddo ddechrau rhedeg i ‘I Want to Break Free’ , ond does dim isie i ni gymryd y peth yn rhy bell, nag oes!

Mae hefyd wedi gweud ei air cyntaf (ac nid Panda odd e, chwaith!). Gadewais i fe ar ei ben ei hunan yng nghlwb Ti a Fi ddydd Mawrth, ac aeth e i ben y ‘llwyfan’ (rhyw ddarn o lawr sy 6 modfedd yn uwch na’r gweddill) ac anghofio siwd i ddod lawr eto. Clywas i fe’n llefain, ond erbyn i fi fynd nol i’r stafell roedd un o’r mamau wedi’i godi o’r llawr. Troiodd e tuag ata’i, a ‘ngweld trwy ei ddagrau, a sgrechen nerth ei ben ‘Daaadiii!’. Pallodd ‘y ‘ngwraig a ‘nghredu i, gan yn bo ni ‘di bod yn trio dysgu iddo fe weud ‘mami’. Ond heddi, mae fe wedi gweud e eto cwpl o weithiau.

Ond cyn i fi allu clochdar wrth ‘y ‘ngwraig ynglyn a hoff riant y crwtyn, troiodd e ati hi, a gweud dadi, hefyd. Ryn ni wedi hen arfer arno fe’n arwyddo ‘mam’ wrth ofyn iddi hi ble ydw i, a bu rhaid i fi dderbyn taw ‘rhiant’ yw ystyr dadi, a nage fi yw’r ffefryn wedi’r cwbl…

Sori, ond mae’nrhaid i fi gael hyn mas o’r system tra bo unrhywun sy wedi danto arna’i'n canu clodydd Ioan wedi’n gadael, felly, mwy o eiriau cyntaf:

Wrth ei sychu ar ol bath, ryn ni’n ware gem o gyfri i dri a gollwng y tywel ar ei ben. Nos Iau, dalais i’r tywel fel arfer, a wedodd Ioan “Nn… da… trrr.” So fe wedi gneud e eto ers ‘ny – wy’n credu iddo fe gael siom mawr o gael cusan a chwts yn lle cael tywel yn ei wyneb…

Geiriau cyntaf
Mae pawb wedi bod yn gofyn i ni, “Bydd ei eiriau cyntaf yn Gymraeg neu Saesneg?”, a ninnau yn ateb bod ‘dad’ a ‘mam’ yr un fath yn y ddwy iaith, felly’n bod ni’n ddigon saff na bydd problem ieithyddol.  A dyma fi’n cyrraedd gytre ddoe, a chasglu Ioan o’n cymdogion (mae nhw’n dwlu arno fe ac yn mynnu’i garco mor amal a phosib!), i glywed ei fod (yn eu tyb nhw) wedi gweud ei air cyntaf.

“Panda”.

“Panda”?

Wrth gwrs, nag yn ni’n credu dim arnyn nhw, er ei fod e’n dwli ar weld y panda yn ei lyfr ‘codi fflapiau’ o anifeiliaid.  Mae wedi bod yn adnabod y crocodeil (clapio’i dwylo’n araf gyda’i freichiau ar led yn ol ei arwyddo ei hunan), ac wedi bod yn chwyrnu at y llew, a gwneud rhyw rhoncian wrth y mwnciod, ond Panda – does bosib!

Ond mae’n amlwg ei fod wedi cyrraedd y pwynt nawr pan fo’i ymenydd yn dechrau deall geiriau / arwyddion = pethau arbennig, gan ei fod wedi rhoi ei law wrth ei dalcen y bore ‘ma wrth ddisgwyl ar fy ngwraig.  Pan na chafodd unrhyw gymeradwyaeth, penderfynodd e rhoi ei ddau fynegfys at ei gilydd (Sy’n agos at yr arwydd cywir), a gweud ‘dadi’ – ‘Na’i air cyntaf, yn siwr i ti, er falle nad yw’ ngwraig mor sicr!!  Dim ond wedyn, sylweddolon ni taw’r arwydd am Mam (rhoi tri bys at eich talcen) oedd ei ymgais cyntaf.

Ta beth, rwy’n dechrau swnian fel ‘Boring Dad’ nawr.  Mae fe’n glyfar aruthrol, a dyna fe.  Na beth o’n i’n trio gweud a dyna’i diwedd hi!

Ond na, mae’n rhyfedd siwd mae ryw swits yn troi, a phethau’n dechrau rhuthro, fel ei gropian – cymrodd e ddeuddydd i fynd o ffaelu a chropian, i gropian i bobman ar ras wyllt – a’i sefyll – eto rhyw ddeddydd o ffaelu a sefyll i dynnu ei hunan lan wrth unrhywbeth o fewn golwg.  Mae’n debyg bod plant o’i oedran e’n dysgu rhyw 10 o eiriau y diwrnod unwaith mae nhw wrthi’n iawn.  Nag o’n i’n sylweddoli mod i’n defnyddio gymaint o eiriau a hynna!  Cawn weld faint mor glou bydd e’n dysgu i barablu nawr!

Cropian a Cherdded
Heb sgwennu ers achau – mae’n rhyfedd fel mae’r amser yn diflannu pan fo ‘lleidr amser’ gyda chi ar ffurf mab bach…!

Mae’r crwtyn yn cropian (ers  4 wythnos) ac yn tynnu ei hunan lan ar y celfi, y staer, y drysau, ein  coesau…  Rhaid wrth lygaid barcud i’w wylio.  Ry’n ni  wedi rhoi’r platiau cau ar y socets trydan i gyd, a wedi prynnu teclynau  cadw cypyrddau ar gau, hefyd, ond heb ei ffitio eto gan nad yw Ioan  yn cael mynd i’r gegin, a gan ei fod e’n cropian, mae’n ddigon  hawdd ei gadw mas.

Un o’i hoff gemau ar hyn  o bryd yw troi cylchoedd o gwmpas y sofa, gyda Dadi yn ei gwrso fe,  gan daro’i din neu ei draed pob tro mae’n ei ddala.  (Un o’r  ychydig resymau fy mod i yn erbyn deddf gwahardd taro plant yw’r diffiniad  o daro.  Mae Ioan yn dwli cael ei daro’n ysgafn ar ei din, ond  lle mae’r ffin rhwng hynny a throsedd arfaethedig?  Does dim  gyda fi ddigon o ffydd y byddai’r system gyfreithiol fel y mae ar  hyn o bryd yn gall ynglyn a’r peth.  Ond mae hynny’n ddadl  at ddiwrnod arall!)

Mae Ioan yn newid o ddiwrnod  i ddiwrnod ar hyn o bryd – yn tyfu’n dalach, yn colli pwysau (neu  bmi o leiaf) ers iddo ddechrau cropian, ac yn datblygu pob math o sgiliau  rhyfedd.  Ddechrau’r wythnos, sylwodd arna’i’n tynnu fy sbectol,  ac anadlu arnyn nhw er mwyn eu glanhau.  Nawr pob tro wy’n tynnu’n  sbectol mae fe’n chwythu gyda’i geg ar agor er mwyn glanhau par  dychmygol o sbecs!

Mae fe hefyd wedi dechrau arwyddo.   Mae chwifio llaw wrth fwyta naill ai’n dangos ei fod am gael gwared  ar rywbeth neu ei fod e am gael diod (yr arwydd am ddiod yw troi dwrn  fel petai cwpan yn eich llaw).  Mae fe’n defnyddio’r arwydd  am gi o bryd i’w gilydd – mae fe’n dwli ar gwn – ac yn cropian  tuag at y gegin os wnelwch chi arwydd bwyd (llaw at y geg).  Mae’n  rel hwyl carco fe, a fi sy’n cael gweld popeth.  Heblaw am y  tro cyntaf iddo fe dynnu’i hunan ar ei draed – gyda ‘ngwraig oedd  e ar y pryd, felly er taw fi sy’n ei garco fe 80% o’r amser, mae  fe dal yn sefyll ar ei chyfer hi tro cyntaf.  Does dim cyfiawnder!!

Bydd e ddim yn hir yn cerdded  nawr.  Mae’r cart cerdded gyda fe, ac mae ei draed yn symud a’r  wen ar ei wyneb yn dangos pwy mor glyfar yw cerdded.  Ar wahan  i ddala’i ddwylo (neu ei geseiliau) a helpu iddo fe gerdded ar draws  y llawr ambell waith, so ni wedi gwneud rhyw ymdrech mawr i’w helpu.   Fe’i codais i e wysg ei din cwpl o weithiau i ddangos iddo pwy mor  hawdd oedd sefyll gyda chymorth sofa, ond fe sy wedi penderfynu taw  dyma’r adeg gorau i ddechrau, a does dim stopio i fod arno fe.   A weud y gwir, er mod in disgwyl ymaen yn eiddgar at ei weld e’n cerdded  yn dechau, ac at fynd a fe ar grwydr, gorau po hwyred mae fe’n ffindio’i  draed o ran faint o waith bydd e, hefyd!

Diwrnod Bant
Ces i ddiwrnod bant ddoe.  Aeth y crwtyn i weld ei hen fam-gu (Mamie Francaise) yn Ne Lloegr, a minnau’n cael diwrnod llawn hebddo.  8 awr i’n hunan, a chymaint o bethau i wneud, felly dyma beth a wnes i:

Do’n i ddim yn deall pan oedd ‘y ngwraig yn treulio diwrnod yn gwneud dim byd gyda’r crwtyn yn nhŷ ei mam.  Ro’n i’n derbyn ei bod hi’n flinedig, a’i fod yn braf gwneud dim am unwaith, ond tan ddoe, nag o’n i wedi deall beth yw diwrnod bant.

Yn gyntaf, mae rhyw hanner awr o fwydro a thindroi.  Beth wnaf i?  ‘Na’i esgus gwylio’r newyddion, wedyn gneud rhywbeth ar fy rhestr o dasgau am y diwrnod.

Wedyn mae rhyw awr o ‘gynllunio’.  Wy’n rhy flinedig i wneud dim yn syth, felly beth am benderfynu beth sydd i’w wneud.

Gwneud ambell i alwad ffon, bach o fwyd, falle bach yn fwy o fwyd.  Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod faint o’r gloch yw hi oherwydd nag oes rhaid i fi wylio’r cloc heddi.

Torri’r lawnt (mae’n ddiwrnod braf wedi’r cyfan), wedyn disgwyl ar y rhestr o bethau i wneud a meddwl ‘O mae hen ddigon o amser, so’r crwtyn gyda fi heddi.  Gwely am awr fach (ar ol penwythnos hir a chaled) ac yn sydyn reit mae ‘ngwraig ar y trên ar ei ffordd gytre, a minnau wedi gwneud… ymm… dim o gwbl.

Well i fi ymhelaethu ar y penwythnos.  Parti pen-blwydd gyda 9 o blant ac 20 o oedolion.  Llond y lle o falŵns a bwyd, a phawb yn joio.  I fac-tracio fel ffilm doniol (ar fast fforward, siŵr o fod) nosweth Gwener a bore Sadwrn (a phrynhawn Sadwrn, a weud y gwir i chi), rhedeg o gwmpas y tŷ yn cymonnu (tacluso, i chi bobl o ffwr’), cario bocsys a phethach lan staer i’r stafell sbâr, ceisio diogelu’r tŷ ar gyfer plant sy’n gallu cerdded (Mae un rhan ohono’i yn disgwyl ‘mlaen at weld Ioan yn cerdded, ond mae rhan arall ohono’i yn gwybod na fydd eiliad o lonydd i fi wedyn.  Am hwyl!  Am hunllef!), a symud y llyfrau Sw-Docw o’r stafell ‘molchi – so ‘ngwraig am i bobl feddwl mod i’n gneud Sw-Docw yn y tŷ bach, ond mae pawb yn gwybod nawr ta beth!!!

Soi’n gweud bod y tŷ yn llanast cyn y penwythnos, ond ar ol diwrnod a hanner o gymonnu, ro’n ni dal wrthi’n cicio pethau o dan fyrddau a’u cuddio  mewn cypyrddau wrth i’r gwesteion gyrraedd.

Ware gemau dechau yn y parti, wedyn – pasio’r parsel, delwau cerddorol (sefyll fel delw pan fo’r gerddoriaeth yn peidio, er i ni newid y rheolau i fod yn ‘ddwylo ar eich pen’ oherwydd bo cymaint o blant ifanc), helfa drysor, a jeli a hufen ia i fyta.  Heblaw’r Pringlys, wedi’u gwneud gan Cat (fy ngwraig) neu’i mam oedd y bwyd i gyd, a diflanodd popeth, gan adael jest digon i fi gael bwyd gyda’r nos yn hytrach na pharatoi rhywbeth arall!  Am gynllun perffaith!

Ond dyna’r her nawr – cadw’r tŷ yr un mor daclus ag oedd e ddydd Sadwrn, tra’n ffindio’r holl bethau sy ar goll dan fyrddau, mewn cypyrddau ac ati.  Wats ddys sbes…

Bwydydd Diddorol
Ydw i’n or-hyderus?  Ar ôl cwta wythnos o garco Ioan, mae ‘nghreadigrwydd coginyddol ar dân!  Ddoe, ces i (neu falle, celon ni – wedi’r cyfan mae Ioan yn rhan o’r blog hwn hefyd!) anrheg, fel manna o’r nefoedd.  Y fenyw drws nesa wedi coginio gormod o fwyd, a dim am ei dwlid i’r bin: A hoffen ni bryd parod o gyw iâr, tato, brocoli, moron a grefi, a gweddill y cyw iâr.  Wrth gwrs, medden i, a mynd syth at y llyfr ryseitiau i gael syniadau am bryd o fwyd i fi a ‘ngwraig oedd yn cynnwys cyw iâr.  Felly “Cyw iâr mewn saws finegr gwin gwyn a hufen sur” celon ni, heblaw taw iogwrt oedd yr hufen sur.  A hen win coch wedi suro oedd y ‘finegr gwin gwyn’.  Ond, na, ymffrostio yw hynny (neu bôstan fel ‘yn ni’n gweud lawr ffor’ hyn).  Nid dyna yw stori’r blog!

Yn ystod y dydd ddoe, penderfynais i bod brechdanau caws meddal bach yn ddiflas, a felly yn penderfynu taw creadigrwydd pia hi, a gwneud brechdanau caws meddal, afocado a’r mymryn lleiaf o saws tomato.  ‘Na chi’r mwyaf brwdfrydig wy wedi gweld Ioan dros ei frechdanau ers ‘ticyn, yn sicr ers ei anhwylder penwythnos diwethaf.

A bu bron i fi sbwylo’r cyfan heddiw!  Wrth gerdded gartref o ‘Ti a Fi’ dydd Gwener (sydd yn rhyw glwb i blant am 2 awr gyda 10 munud o ganu Cymraeg ar ei ddiwedd, yn hytrach na Ti a Fi yn ei lawn ystyr) sylweddolais i nad oedd bara yn y tŷ.  Nawr, nag ‘yn ni’n prynu bara o’r siop, fel pobl normal.  Mae peiriant crasu bara ‘da ni ers dros 2 flynedd bellach, a mae’r bara gymaint yn neisach, nag ‘yn ni wedi prynu mwy na hanner dwsin o dorthau siop ers i ni’i gael.  Felly dim bara nawr = dim bara am o leiaf 3 awr a 40 munud.  Bach yn rhy hir i’r crwtyn aros, felly.

A dyma (o’r diwedd – sori, wy’n tueddi i rygnu mlaen os nag oes rhywun yn ‘y mrysio) destun y blog.  Daeth fflach o ysbrydoliaeth, a dyma fi’n coginio pancws (crempog, ta beth ‘ych chi’n eu galw nhw), a’u taenu gyda chymysgedd o Diwna ac Afocado.  Ces i flas, ac yna ces i bancws, achos ro’n nhw’n hyfryd.  Na, wir i chi!  Yna rhoddes i un i Ioan.

Sgrechain, llefain, twlid bwyd ar lawr…  Ro’n o’n meddwl mod i ‘di cymryd cam gwag (wel, mynd am dro 8 milltir yn llawn o gamau gwag, a weud y gwir!).  Felly yn lle rhoi tafelli o bancws iddo fe, dyma fi’n eu torri’n fan a’u rhoid ar lwy.  Yr un ymateb yn union.

Falle i chi ddarllen mewn post cynharach am drin plant fel cŵn, a dyma fi’n meddwl – a ddylwn i baratoi rhywbeth arall yn lle’r pancws?  A ddylwn i rhoi’r bwyd i gadw a rhoi’r crwtyn i’r gwely heb fwyd? Yr ail oedd yr opsiwn gore i fi – nag wy moyn i Ioan ddysgu bod modd iddo wrthod un fath o fwyd, a chael rhywbeth arall pob tro.  Nag wy am iddo orfod gwneud dewisiadau fel’na am dicyn eto!  Sai’n siŵr os welws e’r penderfyniad yn ‘yn llygaid neu beth, ond triais i un waith eto, a dyma fe’n llowcio’r bwyd, ac yn sgrechain am fwy ar ôl pob llwyaid.

Mae’n debyg, yn ôl y tiwtor nofio, (mwy am hynny rhywbryd eto) bod plant wrth iddynt ddechrau cropian neu gerdded, yn mynd trwy ryw gyfnod anodd o strancian a ffwdanu wrth wneud pethau arferol pob dydd.  Rhywbeth i wneud gyda dechrau eu hannibyniaeth, myntai hi.  Os felly, tybed ai dyna oedd fy muddugoliaeth bach cyntaf yn y frwydr hir rhwng nawr a phan mae’n gadael y nyth (yn 37 oed yn ôl yr ystadegau…!).  Os felly, mae’n siŵr taw Iestyn 1 Ioan 37 (o leiaf) yw hi erbyn hyn!

Datblygiad y Babi – Llinell Amser
Fel gwedais i yn fy mhost cyntaf, wy am weld pwy fath o gemau galla’i whare gyda’r crwtyn i’w ddatblygu (rhwng y gemau ‘jest whare’), ac felly dyma fi ar ruthr i’r we. Sgwennu  “baby development” i’r hen Oogle, a bant a ni.

Am siom.  Na, mae’n waeth na hynny – mae ‘mhlentyn i’n rhyw fath o retard.  Mae fe’n hwyr yn gwneud gymaint o bethau, wy bach yn grac nag yw’r ymwelydd iechyd wedi gweud rhywbeth.

“Mae fe’n foi hyfryd,” mynte hi bob tro.  “Mae fe mor fywiog,” ambell dro arall.  Byth “Mae fe bach yn dwp.  Dyle fe fod yn gneud … hyn a’r llall… erbyn hyn.”

Ac yna meddwl, ac ystyried, ac edrych yn ddyfnach.  Byddwch yn ofalus iawn, da chi, o gredu’r pethau ar y we.  Er enghraifft, dyma siannel “Discovery” http://health.discovery.com/centers/kids/timeline/timeline.html yn gweud bod e’n cerdded ac yn defnyddio geiriau gan wbod eu hystyron, mae dannedd a gwallt gyda fe, ac mae fe’n cropian i ffwrdd cyn edrych i weld os yw ei rieni yn gwylio.  A hynny’n 10 mis oed.  Nawr, falle bod eich plentyn chi yn gneud y pethau ‘ma, ond so Ioan yn gneud, ac yntau’n prysuro at ei 12 mis.

Ac yna, ffindio’r llinell amser ar Talaris http://www.talaris.org/timeline.htm# sydd yn penodi cyfnodau (yn hytrach na dyddiadau penodol).  Hyd yn oed wedyn, mae Ioan ar ei ol gyda chwpl o bethau, ond o flaen rhai ohonynyt hefyd.  Rwy llawer iawn yn hapusach o weld hynny!

Ond nol at ddiben yr ymchwil yn y lle cyntaf – ryn ni wedi rhoi cwpanau i’r crwtyn yn y bath iddo allu arllwys dwro un i’r llall, a mwy o focsys bach a mawr iddo gael rhoi pethau mewn a’u tynnu nol mas eto.  Mwy o chwilio, wy’n credu!

Gwrthod Bwyta
Mae’r boi wedi bod yn gwrthod bwyta dros y ddeuddydd ddiwethaf.  Mae’n bosib taw anhwylder sydd i feio am ei ddiffyg brwdfrydedd brechdanol, ond rhyfedd ei fod felly yn bwyta brecwast llawn a chinio llawn hefyd (er iddo chwydu cinio echdoe dros ei wely wrth noswylio).  A rhyfedd hefyd nad oes awch am frechdan arno fe, ond mae’n ddigon hapus o gynnig iogwrt iddo’n syth.

Mae rhyw syniad gyda fi taw colli’i fam sydd wrth wraidd peth o’i wrthod.  Mae Ioan yn angel fel arfer, ond mae wedi bod yn crintach ychydig yn fwy na’r arfer, llefain wrth fynd i’w wely, jest pethau bach sy ddim yn broblem, ond yn anarferol.  Er falle taw fi sy’ ffaelu a gwneud brechdan dechau!

Ta beth, penderfynson ni ddilyn ein greddf a’i drin fel ci.  Well i fi esbonio cyn ddaw’r sosial:  Pan fo ci bach yn gwrthod bwyta, y peth callaf i’w wneud yw i gymryd y bwyd oddi arno, a’i roi nol iddo fe nes ‘mlaen, adeg ei bryd nesa.  Felly mae ci yn dysgu i fwyta bwyd ar yr adegau cyfleus i’r bos (ei berchennog) yn hytrach na bod yn fos ei hunan.  OK, mae plentyn bach yn wahanol, ond nag ‘yn ni’n moyn i Ioan ddechrau dewis beth mae fe am fwyta a beth sy ddim wrth ei ddant e am rhai blynyddoedd eto (ha ha ha meddech chi’r rhieni profiadol!), felly does dim iogwrt a ffrwythau i fod tan iddo fe fwyta’i frechdanau, neu o leiaf gwneud ymdrech deg.

Heddi, fel mae’n digwydd, bwytodd e dros hanner y frechdan fach oedd o’i flaen, felly gas e gwpl o ddarnau o beren.  Gyda llaw, mae Ioan ymhell dros yr 50% o ran ei bwysau (hy yn drymach o lawer na chyfartaledd y babis o’r un oedran a fe), yn iach ac yn llawn egni, felly does dim rhaid i ni fecso y bydd e’n newynnu – pe bai e’n llai iachus, wrth gwrs, byse’n rhaid i ni fod ‘ticyn yn fwy carcus!

Y Diwrnod Cyntaf
Y diwrnod cyntaf yn dirwyn i ben.  Llwyddiant ysgubol bu hi – mae’r crwtyn dal yn fyw, a minnau wedi cadw ‘mhwyll.

Amserlen heddi’:  Arwyddo i fabanod yn Radyr yn y bore, Ti a Fi ym Maesycwmer yn y prynhawn.

Mae Arwyddo bach yn lletchwith oherwydd ei fod yn Saesneg.  Ry’n ni’n dysgu arwyddion trwy eu defnyddio wrth ganu caneuon ac ati, ac yna yn eu cadarnhau trwy ddefnyddio nhw wrth siarad gyda’r babis.  Nawr, siwt mae dysgu’r gair ‘Hwyaden’ trwy ganu can ‘four little ducks went swimming one day…”.  Mae’n siŵr dof i i ben a hi!

Un o’r pethau gorau ynglŷn ag arwyddo yw bod plant, ymhell cyn iddyn nhw allu siarad, yn gallu arwyddo anghenion syml (llaeth, bwyd, diod ac ati) a chyfathrebu (moyn mynd gytre, wy’n oer, mae’n nannedd i’n brifo…).  Roedd fy nai yn trafod adar yn yr ardd ac anifeiliaid y fferm yn 12 mis!

I ychwanegu at yr hwyl heddi mae’r boi ‘di dala rhyw anhwylder oddi ar ei gefnder (yr un un a’r nai a glodforais cymaint, gwta paragraff yn ôl…).  Penderfynodd e gyfogi dros fy siwt nifer o weithiau mewn priodas ddydd Sadwrn, ac wedi bod yn llai brwdfrydig na’r arfer ers hynny wrth fwyta ac yfed.  Heddi, buodd e’n sâl yn y dosbarth arwyddo, a minnau’n dad diymadferth yn dibynnu ar ‘babywipes’ rhywun arall (wedi anghofio mynd a’r bag newid).  Yn ddigon ffodus, dim ond ychydig o hen laeth daeth lan, ar fat plastig tua diwedd y wers.  Dim fel y llif di-ddiwedd a ddaeth heno wrth noswylio.  Mae Pastai Bwthyn (?Cottage Pie) fy ngwraig yn rhy dda, a Ioan yn ffaelu ag ymwrthod rhag ei fwyta fe i gyd.  Ynghyd a’r iogwrt a’r bisgedi.  A mwged da o laeth.

Yn ddigon lwcus, fy ngwraig oedd yn ei roi yn ei wely, a minnau mewn ymarfer côr!

Wy wedi sylweddoli un peth eitha pwysig.  Mae ‘ngwraig wedi sgwennu amserlen i fi o’i holl weithgareddau (Ti a fi, nofio, arwyddo ac ati), ac ryn ni wedi penderfynu ar ryw fath o fwydlen o flaen llaw, er mwyn i fi orfod meddwl (a dysgu) am un peth ar y tro.  Ond mae un peth ar goll:  Beth ydw i fod gneud pan ‘yn ni’n treulio amser ar ein pennau’n hunain?  Hy, ‘wy wastad wedi treulio lot o amser yn darllen a ware a gneud pethau felly gyda Ioan, ond hyd at nawr, dim ond am awr, neu am brynhawn unigol ar y tro.  Oes ‘na bethau eraill i’w gwneud?  Mae’n datblygu mor glou, a dwi ddim moyn iddo fe golli mas ar ddim byd…